Proverbs 2

Manteision bod yn ddoeth

1Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud,
ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn;
2Os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb,
a cheisio deall yn iawn;
3Os byddi di'n gofyn am gyngor doeth,
ac yn awyddus i ddeall yn iawn;
4Os byddi'n ceisio doethineb fel arian
ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi ei guddio,
5yna byddi di'n deall sut i barchu'r Arglwydd
a byddi'n dod i wybod am Dduw.
6Achos yr Arglwydd sy'n rhoi doethineb;
beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall.
7Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn –
ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest.
8Mae'n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo,
ac mae'n gwarchod y rhai sy'n ffyddlon iddo.
9Byddi'n deall beth sy'n iawn, yn gytbwys, ac yn deg
– ie, popeth sy'n dda.
10Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl
a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di,
11bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff,
a bydd deall yn dy warchod.
12Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg,
a rhag y bobl hynny sy'n twyllo o hyd –
13y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest
i ddilyn llwybrau tywyll.
14Maen nhw wrth eu boddau yn gwneud drwg
ac yn mwynhau twyllo –
15Pobl anonest ydyn nhw,
ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog.
16Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol,
yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg,
17yr un sydd wedi gadael ei gŵr,
a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.
18Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth;
mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw
2:18 byd y meirw Hebraeg, “cysgodion”. Cyfeiriad at y meirw yn Sheol – gw. Job 26:5 a Salm 88:10
.
19Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl,
a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto.
20Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda,
cadw di at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
21Y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn fydd yn byw yn y tir,
y rhai sy'n byw'n onest fydd yn cael aros yno.
22Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd,
a'r rhai sy'n twyllo yn cael eu rhwygo o'r tir.
Copyright information for CYM